Amdanom Ni
Y stori hyd yma...
Yn 2010 caeodd Siop Griffiths, un o'r adeiladau hynaf ym Mhenygroes ar ol dros 100 mlynedd o fusnes. O 1828 i'r Rhyfel Byd Cyntaf bu'r adeilad yn dafarn o'r enw 'Stag's Head'. Wedyn, yn 1925, agorodd Siop Griffiths fel ironmongers, busnes teuluol am 85 mlynedd.
Ar ol i Siop Griffiths gau ei drysau yn 2010, roedd yr adeilad mewn perryg o droi'n adfail a bu'n wag am rhai blynyddoedd. Roedd yn golled enfawr i'r pentref, felly daeth criw o bobl at ei gilydd i geisio meddwl am gynllun i adfywio'r hen adeilad a chynnig rhywbeth newydd i'r gymuned.
Felly, sefydlwyd Cymdeithas Budd Cymunedol gan griw o wirfoddolwyr, i sicrhau fod yr adeilad yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned. Yn 2016 prynwyd y siop gyda arian a godwyd gan y gymuned ac yna yn 2019 prynwyd ail adeilad ar y safle, i achub adeilad gwreiddiol arall.
Bu sawl ymgynghoriad a'r bobl leol er mwyn darganfod beth yn union oedd y galw yn Nyffryn Nantlle ac o ganlyniad fe grewyd cynllun busnes manwl ar gyfer y safle.
Dros 3 mlynedd cododd Siop Griffiths Cyf £900,000. Mae'r arian wedi adnewyddu 3 adeilad ac wedi agor caffi, llety, ystafell aml-bwrpas, swyddfeydd a chanolfan digidol i blant a phobl ifanc. Mae sawl prosiect cymunedol ar y safle hefyd, sy'n defnyddio degau o wirfoddolwyr i gyflawni budd cymunedol y fenter.
Ein cam nesaf ydy adnewyddu'r hen stablau tu ol i'r prif adeilad i greu mwy o ystafelloedd aros a sied feics i'n beiciau trydan.
Mae tim Yr Orsaf wedi newid a thyfu ers cyflogi'r aelod cyntaf o staff yn 2019, ac erbyn hyn mae 9 aelod yn gweithio i'r fenter, unai yn llawn neu'n rhan amser. Mae'r caffi'n cael ei redeg gan unigolyn annibynnol ac yntau sy'n gyfrifol am staff y caffi.
Mae'r grwp o wirfoddolwyr a sefydlodd y fenter yn dal i weithio'n galed tu ol i'r llen ac yn cyfarfod yn fisol i drafod datblygiadau, materion sy'n codi a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Er bod gennym rhywfaint o incwm erbyn hyn o ganlyniad i lwyddiant ein llety, mae natur y fenter yn golygu bod angen parhau i ymgeisio am grantiau a chyllid er mwyn sicrhau dyfodol y staff.
Mae'r Orsaf wedi dod a bywyd yn ol i'r hen adeilad ac o'r diwedd yn gallu cynnig rhywbeth gwerthfawr yn ol i'r gymuned unwaith eto.