Cartref
Croeso i’r Orsaf. Lle i fwyta, aros, datblygu sgiliau creadigol a chyfrannu at y gymuned.
Mae’r Orsaf yn byrlymu gyda phobl yn ymgynnull i gymdeithasu, bwyta ac aros, cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, datblygu sgiliau a llawer mwy.
Mae Yr Orsaf wedi'i lleoli ym mhentref Penygroes, Dyffryn Nantlle.
Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor Siop Griffiths Cyf. Ein nod yw sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned.
Yn y gorffennol bu'r adeilad yma'n dafarn prysur cyn troi'n siop haearnwerthwyr gyda'r enw Siop Griffiths.
Ond, erbyn hyn mae'r Orsaf yn llawer mwy nag adeilad. Mae'n hwb cymunedol pwysig yn y Dyffryn sy'n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i blant, pobl ifanc ac oedolion ac yn cynnig swyddi i drigolion yr ardal.
Ymysg y gwasanaethau mae'r Orsaf yn eu cynnig mae Cynllun Trafnidiaeth, Cynlluniau Bwyd a Lles, Prosiectau Amgylcheddol a Natur a'r Hwb Cymunedol. Ym mhob prosiect mae'r Orsaf yn ymrwymo i gefnogi unigolion, datblygu cymunedol, hyrwyddo lles drwy'r celfyddydau ac ymgysylltu efo natur.
Mae'r fenter yn mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn mae llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn digwydd yma a chynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.